Cwestiynau cyffredin

O ba oedran rydych yn derbyn plant ym Miri Mawr?

Mae lle i drideg chwech o blant ym Miri Mawr o chwe wythnos oed hyd at oedran ysgol. Rydym yn gofalu am blant yn llawn amser neu’n rhan amser.

Beth yw oriau agor/cau Miri Mawr?

Mae Miri Mawr ar agor o 8.00 y bore tan 6.00 yr hwyr, pum niwrnod yr wythnos. Disgwylir i rieni gasglu eu plant yn brydlon am 5.55 ac mae’r feithrinfa yn cau ei drysau am 6.00. Nid ydym yn gallu gofalu am blant cyn 8.00 y bore neu ar ôl 6.00 yr hwyr. Mae’r feithrinfa ar gau ar Wyliau Banc ac hefyd yn ystod wythnos y Nadolig.

Pa fath o fwyd a weinir ym Miri Mawr?

Paratoir y bwyd yn ffres bob dydd gan ein cogydd. Mae’r plant yn cael brecwast dau gwrs, cinio a the dau gwrs. Mae ein bwydlen yn newid bob tair wythnos. Cawn ein cig o’r siop gigydd leol (Driscolls). Cyn cychwyn yn y feithrinfa, trafodir anghenion dietegol y plentyn gyda’r Rheolwraig.

Beth sydd angen ar fy mhlentyn?

Paratoir llaeth potel ar gyfer babanod gan y staff bob dydd ac mae Miri Mawr yn darparu cewynnau. Mae angen bag o ddillad sbâr ar eich plentyn wedi’u labelu’n glir. Mae angen hefyd pâr o welintons sy’n cael eu cadw ym Miri Mawr. Mae hefyd angen het ac eli hau yn nhymor yr haf. Mae’n hanfodol eu bod yn cael eu labelu’n glir.

Ydy Miri Mawr yn gweithredu’r Cyfnod Sylfaen?

Nod Miri Mawr yw ehangu agweddau positif y plant tuag at ddysgu. Gweithredir y Cyfnod Sylfaen lle mae’r plant yn dysgu drwy chwarae ac yn meithrin dealltwriaeth sylfaenol yn y chwe maes dysgu canlynol:

  • Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
  • Datblygiad Mathemategol
  • Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Datblygiad Corfforol
  • Datblygiad Creadigol

Pa fath o weithgareddau mae’r plant yn eu gwneud ym Miri Mawr?

Paratoir llu o weithgareddau amrywiol ar gyfer y plant. Mae pwyslais dyddiol ar y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 – 5 oed lle maent yn dysgu sut mae pethau’n gweithio a darganfod ffyrdd gwahanol o ddatrys problemau. Addaswyd ein gardd eang i’r diben hwn lle mae’r plant yn plannu a thyfu llysiau a blodau, chwarae â dwr/tywod, beiciau ac yn y blaen. Mae’r plant yn cael cyfle i chwarae y tu allan beth bynnag yw’r tywydd a darperir dillad glaw pwrpasol ar eu cyfer.

Ydy’r plant yn mynd allan o gyffiniau’r feithrinfa yn ystod y dydd?

Mae’r plant yn mynd am dro allan i’r gymuned leol yn rheolaidd. Maent yn ymweld â’r llyfrgell, parc a siopau lleol. Trefnir gwibdeithiau sy’n cyd-fynd â’n thema deufisol ar gyfer y plant hŷn e.e. Techniquest, lan y môr (Barri), Pantomeim, Bae Caerdydd ac yn y blaen. Hefyd trefnir ymweliadau lle mae pobl o’r gymuned yn dod i siarad â’r plant e.e. y Frigâd Dân leol, Meddyg, Deintydd ac ati.

Faint o staff sydd ym Miri Mawr?

Mae’r gymhareb staff i blant fel a ganlyn:

0 - 18 mis - 1:3

18 - 24 mis - 1:3

2 - 3 mis - 1:4

3 - 5 mis - 1:8

 

Mae gan y Rheolwyr gymwysterau priodol ynghyd â thystysgrif a phrofiad dysgu sylweddol. Mae pob aelod o staff yn meddu ar neu yn gweithio tuag at gymhwyster pwrpasol ar gyfer gweithio gyda phlant. Mae pob aelod o staff yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae gennym gysylltiad agos â cholegau ac ysgolion lleol.

Beth os yw fy mhlentyn yn sâl?

Os yw plentyn yn sâl, dylai aros gartref nes ei fod yn holliach. Gofynnir i bob rhiant ddilyn canllawiau’r feithrinfa ynglŷn â salwch. Rhoddir y rhain i chi wrth i’r plentyn gychwyn ym Miri Mawr. Pe bai plentyn yn cael ei daro’n sâl yn y feithrinfa, byddwn yn cysylltu â chi yn syth. Gofynnir i chi roi gwybod i’r feithrinfa os oes gan eich plentyn salwch heintus e.e. brech yr ieir.

Beth yw polisi iaith Miri Mawr?

Meithrinfa Gymraeg yw Miri Mawr a Chymraeg yn unig a siaredir yma.

Ydych chi’n gofalu am blant ag anghenion arbennig?

Diwellir anghenion plant sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig yn y feithrinfa, lle cant eu haddysgu ochr yn ochr â’u cyfoedion, lle bo hynny’n bosibl. Ystyrir yn fanwl pob cais sydd yn ymwneud â phlentyn ag anghenion arbennig i sicrhau bod yna adnoddau priodol a bod anghenion pob plentyn yn cael eu diwallu.

Oes gan Miri Mawr bolisi Cyfle Cyfartal?

Nod Miri Mawr yw cynnig cyfle cyfartal i bob plentyn ym mhob agwedd ar fywyd y feithrinfa heb wahaniaethu ar sail rhyw, crefydd, dosbarth cymdeithasol neu anabledd. Mae pob plentyn o’r un gwerth, a rhaid inni osod yr un gwerth ar alluoedd, doniau a sgiliau pob plentyn.



Rydym yn adolygu ein ffioedd yn flynyddol. Os ydych am wybod ein ffi flynyddol, ffoniwch neu e-bostiwch y Rheolwraig.

Cynhelir Noson Agored bob mis Hydref lle mae cyfle i rieni ddod i sgwrsio am ddatblygiad eu plentyn gyda’r staff. Hefyd, cynhelir Sioe Nadolig ar gyfer rhieni yn flynyddol.